Ceri Cunnington – Llwybr Beicio


Mae angen meddalwedd 'Adobe Reader' arnoch i edrych ar y ffeiliau hyn...Lawrlwythwch yma!
Cyfarwyddiadau:
Oedran/gallu: CA3 / CA4
Pynciau Trawsgwriciwlaidd: Daearyddiaeth, Hanes, Addysg Gorfforol
Fframwaith Sgiliau Newydd: Datblygu sgiliau cyfathrebu / Datblygu sgiliau meddwl
Nod ac amcanion:
- Datblygu sgiliau gwrando a deall
- Datblygu geirfa
- Datblygu dealltwriaeth o reolau ieithyddol
- Datblygu sgiliau ysgrifennu
Tasg 1
Gwrando a deall > gwrando’n ofalus ar y trac sain ac ar Ceri Cunnington yn siarad am lwybrau beicio yn ardal Blaenau Ffestiniog.
Tasg 2
Gwrando a deall > ymarfer ‘Gwir neu gau’ yn seiliedig ar y trac sain.
Tasg 3
Datblygu dealltwriaeth o iaith > gwrando am ansoddeiriau ar y trac sain.
Tasg 4
Datblygu dealltwriaeth o iaith > astudio enwau benywaidd ac enwau gwrywaidd o’r trac sain.
Syniadau pellach
• Gwneud gwaith ymchwil i chwaraeon eithafol yng Nghymru a ledled byd.
• Ysgrifennu portread o berson sy’n ymwneud â chwaraeon eithafol.
• Gwneud gwaith ymchwil i chwarel Blaenau Ffestiniog.
Clipiau tebyg:

Rhian Medi – Palas San Steffan

Eirian Jones – Chwarel Blaenau

Richard Jones – Beicio
