Elen Lloyd – Ffitrwydd


Mae angen meddalwedd 'Adobe Reader' arnoch i edrych ar y ffeiliau hyn...Lawrlwythwch yma!
Cyfarwyddiadau:
Oedran/gallu: CA3 / CA4
Fframwaith Sgiliau Newydd: Datblygu sgiliau cyfathrebu / Datblygu sgiliau meddwl
Nod ac amcanion:
- Datblygu sgiliau gwrando a deall
- Datblygu geirfa
- Datblygu dealltwriaeth o reolau ieithyddol
- Datblygu sgiliau ysgrifennu
Tasg 1
Gwrando a deall > gwrando’n ofalus ar Elen Lloyd yn siarad am ei phrofiadau fel hyfforddwraig bersonol.
Tasg 2
Gwrando a deall > ymarfer ‘Gwir neu gau’ yn seiliedig ar y trac sain.
Tasg 3
Datblygu geirfa > astudio geirfa yn ymwneud â chadw’n heini sy’n codi o’r trac sain.
Tasg 4
Datblygu dealltwriaeth o iaith > gwrando am ferfenwau ac ansoddeiriau ar y trac sain.
Tasg 5
Datblygu cywirdeb ieithyddol > cywiro cyfres o frawddegau yn seiliedig ar y trac sain.
Syniadau pellach
- Ysgrifennu hysbyseb ar gyfer busnes newydd Elen Lloyd fel hyfforddwraig i’w roi yn y papur newydd.
- Ysgrifennu ymson Elen Lloyd wrth iddi gynnal un o’i dosbarthiadau cadw’n heini.
- Ysgrifennu araith o blaid neu yn erbyn y gosodiad ‘Mae pobl yn rhy barod i chwilio am esgusodion dros beidio a chadw’n heini – mae pobl yn rhy ddiog o lawer.’
- Ysgrifennu portread o berson rydych chi’n ei edmygu o fewn y byd chwaraeon.
Clipiau tebyg:

Elin Haf Davies – Ironman

Arwel Price – Iron Man

Keith Gibby – Cŵn Heddlu

Ifan Richards – Beicio a Rhedeg
Tagiau: beicio, cadw'n heini, ras, rhedeg