Tim Hayes – Dyfarnwr Rygbi


Mae angen meddalwedd 'Adobe Reader' arnoch i edrych ar y ffeiliau hyn...Lawrlwythwch yma!
Cyfarwyddiadau:
Oedran/gallu: CA3 (gallu uchel) / CA4 (gallu isel)
Fframwaith Sgiliau Newydd: Datblygu sgiliau cyfathrebu / Datblygu sgiliau meddwl
Nod ac amcanion:
- Datblygu sgiliau gwrando a deall
- Datblygu geirfa
- Datblygu dealltwriaeth o reolau gramadegol
- Datblygu sgiliau ysgrifennu
Tasg 1
Gwrando ar drac sain o Tim Hayes yn trafod ei yrfa fel dyfarnwr rygbi.
Tasg 2
Gwrando a deall > gwrando ar Tim Hayes yn trafod ei yrfa fel dyfarnwr ac ateb cwestiynau amlddewis yn seiliedig ar y trac sain.
Tasg 3
Datblygu defnydd o iaith > rhoi’r geiriau sy’n ymddangos yn y trac sain yn nhrefn yr Wyddor.
Tasg 4
Cywain gwybodaeth > Cywain gwybodaeth am Tim Hayes o dan benawdau penodol.
Tasg 5
Datblygu defnydd o iaith > adolygu ymadroddion ‘TI’ a ‘CHI’.
Syniadau pellach
- Ysgrifennu ymson Tim Hayes wrth iddo ddyfarnu gêm rygbi.
- Ysgrifennu bwletin chwaraeon yn rhoi hanes gem rygbi diweddar – naill ai gem ysgol neu broffesiynol.
- Trafodaeth grŵp/araith yn mynegi barn ar y gosodiad ‘Mae rygbi yn gêm llawer rhy beryglus i fenywod.’
Clipiau tebyg:
Tagiau: actio, america, gruffudd, gwyddoniaeth, ioan, perfformio