Siôn Thomas – Fferm Wynt


Mae angen meddalwedd 'Adobe Reader' arnoch i edrych ar y ffeiliau hyn...Lawrlwythwch yma!
Cyfarwyddiadau:
Oedran/gallu: CA3 / CA4
Pynciau Trawsgwriciwlaidd: Busnes, Daearyddiaeth, Gwyddoniaeth
Fframwaith Sgiliau Newydd: Datblygu sgiliau cyfathrebu / Datblygu sgiliau meddwl
Nod ac amcanion:
- Datblygu sgiliau gwrando a deall
- Datblygu geirfa
- Datblygu dealltwriaeth o reolau ieithyddol
- Datblygu sgiliau ysgrifennu
Tasg 1
Gwrando a deall > gwrando’n ofalus ar y trac sain a llenwi’r bylchau gwag wrth wrando.
Tasg 2
Gwrando a deall > gwrando’n ofalus ar y trac sain ac ar Siôn Thomas yn siarad am ei fferm wynt. Cyfle i wirio atebion tasg 1 ar yr un pryd.
Tasg 3
Gwrando a deall > ymarfer ‘Gwir neu gau’ yn seiliedig ar y trac sain.
Tasg 4
Gwrando a deall > ymarfer dilyniant yn seiliedig ar y trac sain. Gosod y geiriau yn y drefn y maen nhw’n ymddangos ynddi ar y trac sain.
Tasg 5
Datblygu dealltwriaeth o iaith > gwrando am ferfenwau ar y trac sain.
Tasg 6
Datblygu dealltwriaeth o iaith > gwrando am enwau cyffredin ac enwau priod ar y trac sain.
Syniadau pellach
- Ysgrifennu llythyr Siôn Thomas at y banciau yn Llundain yn gofyn am arian i ariannu’r prosiect.
- Ysgrifennu araith o blaid neu yn erbyn y gosodiad – ‘Mae ffermydd gwynt yn lladd cefn gwlad Cymru’.
- Ysgrifennu dyddiadur Siôn Thomas yn ystod cyfnod anodd yn y broses o adeiladu’r fferm wynt.
Clipiau tebyg:
Tagiau: ariannu, cynhyrchu trydan, cynllunio, prosiect