Rysait Roulade Siocled


Mae angen meddalwedd 'Adobe Reader' arnoch i edrych ar y ffeiliau hyn...Lawrlwythwch yma!
Cyfarwyddiadau:
Oedran/gallu: CA3 (gallu uchel) / CA4 (gallu isel)
Fframwaith Sgiliau Newydd: Datblygu sgiliau cyfathrebu / Datblygu sgiliau meddwl
Nod ac amcanion:
- Datblygu sgiliau gwrando a deall
- Datblygu geirfa
- Datblygu dealltwriaeth o reolau gramadegol
- Datblygu sgiliau ysgrifennu
Tasg 1
Gwrando ar drac sain o sut i greu Roulade Siocled.
Tasg 2
Gwrando a deall > llenwi’r bylchau ar ôl gwrando ar y trac sain yn ofalus.
Tasg 3
Gwrando a deall/datblygu dealltwriaeth o iaith > rhoi’r berfau gorchmynnol yn y drefn y maen nhw’n ymddangos ar y trac sain.
Tasg 4
Datblygu dealltwriaeth o iaith > adolygu berfau gorchmynnol unigol a lluosog.
Tasg 5
Creu bwrdd stori i ddangos y camau sydd angen eu cymryd i greu Roulade Siocled.
Syniadau pellach
- Dychmygu bod creadur o’r gofod yn glanio ar y ddaear – esbonio wrtho sut i wneud paned o de gan ddefnyddio berfau gorchmynnol.
- Ysgrifennu rysáit ar gyfer hoff bryd o fwyd.
- Creu helfa drysor o amgylch yr ysgol a rhoi cyfarwyddiadau gan ddefnyddio berfau gorchmynnol.
Clipiau tebyg:

Marc Griffiths – Cyflwynydd Radio

Sara Beechey – Tafarn y Llong

Rysait Cyri Cyw lar

Rysait Welsh Rarebit
Tagiau: bwyd, caws, rysait, welsh rarebit